Dyddiad yr Adroddiad

07/05/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Gwasanaethau i Blant ag anabledd gan gynnwys grantiau cyfleusterau i'r anabl

Cyfeirnod Achos

202406346

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Ms A gwyno am fethiannau o ran y cymorth y bu iddi hi a’i merch ei gael gan adran Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin (“y Cyngor”).

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cynnal Ymchwiliad Annibynnol Cam 2 i gŵyn Ms A, a bod yr ymchwiliad hwnnw wedi cadarnhau’r materion a godwyd ganddi i raddau helaeth. Roedd y Cyngor hefyd wedi cymryd camau i gwblhau’r argymhellion a wnaed gan yr Ymchwilydd Annibynnol. Fodd bynnag, oherwydd y materion a gadarnhawyd, penderfynwyd ei bod yn briodol talu iawndal. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor gytuno i fynd ati cyn pen mis i dalu iawndal o £2,500 i gydnabod y methiannau a gadarnhawyd yn ystod ymchwiliad Cam 2, a bu i’r Cyngor gytuno i wneud hynny.