Dyddiad yr Adroddiad

20/08/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Gwasanaethau i Blant ag anabledd gan gynnwys grantiau cyfleusterau i'r anabl

Cyfeirnod Achos

202500620

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod oedi a chamgyfathrebu wedi bod wrth i Gyngor Caerdydd ymdrin â’i gais am Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl, a arweiniodd ato’n trefnu’r addasiadau cyn cymeradwyo’r grant, a’i adael mewn dyled.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod prosesau cyfathrebu a chadw cofnodion y Cyngor yn wael a bod ambell achos o oedi y gellid bod wedi’u hosgoi, ond ni ellid priodoli’r holl oedi i fethiant y Cyngor. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gysylltu â Mr A o fewn 1 mis, i ymddiheuro am y cyfathrebu gwael, ac i dalu £500 iddo i gydnabod yr amser a’r drafferth a dreuliodd yn mynd ar drywydd ei gais. Cytunodd y Cyngor hefyd i adolygu ei brosesau o fewn 3 mis.