Dyddiad yr Adroddiad

02/06/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Gwasanaethau i Blant ag anabledd gan gynnwys grantiau cyfleusterau i'r anabl

Cyfeirnod Achos

202400366

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms W ynghylch a oedd y Cyngor wedi gweithredu yn unol â Memorandwm Cytundeb (‘MOA’) wrth ddarparu Grant Cyfleusterau i’r Anabl (‘DFG’) yn ei chartref.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd y Cyngor wedi gweithredu yn unol â’r MOA rhyngddo ef a Ms W wrth gyflwyno Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn ei chartref. Ni chafodd Ms W wybod am newidiadau sylweddol i gost y gwaith a oedd yn cael ei wneud tan dros flwyddyn ar ôl iddo gael ei gwblhau. Wrth weinyddu’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl yng nghartref Ms W, ni chadwodd y Cyngor gofnodion digonol chwaith. Mae’r rhain yn fethiannau sy’n gyfystyr â chamweinyddu ac yn anghyfiawnder i Ms W gan eu bod wedi achosi straen a phryder sylweddol iddi. Cadarnhawyd cwyn Ms W.

Cytunodd y Cyngor ag argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Ms W a chadarnhau swm y grant y byddai’n rhaid iddi ei ad-dalu o bosibl. Cytunodd hefyd i atgoffa swyddogion sy’n ymwneud â darparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl o bwysigrwydd cynnal cofnodion cyflawn a chywir. Bydd yn sicrhau bod swyddogion sy’n ymwneud â darparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn gyfarwydd â gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â chaffael, a sicrhau bod swyddogion sy’n gyfrifol am ymateb i gwynion yn deall pwysigrwydd ymateb yn agored ac yn gywir i gwynwyr.