Dyddiad yr Adroddiad

14/10/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202502977

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X, ar ran Mr Y, nad oedd Cyngor Ceredigion wedi ymateb i’r holl faterion a godwyd yn ei chŵyn ac nad oedd wedi ymateb i’w gohebiaeth ddilynol.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod gyda’r Cyngor yn ymateb i Ms X. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr Y. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Ms X, o fewn pythefnos, i ymddiheuro am yr oedi ac egluro beth aeth o’i le. Cytunodd hefyd i ymateb i’r ohebiaeth.