Cwynodd Mr Q fod Grŵp Cynefin wedi methu ag ymateb i faterion a godwyd ynghylch ei gysylltiad â’i deulu ar ôl iddo wahanu oddi wrth fam ei blant.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi methu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr Q am y gŵyn a’r rhesymau dros yr oedi wrth gwblhau ei ymchwiliad. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr Q. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Mr Q, i roi esboniad am yr oedi ac i ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn o fewn pythefnos.