Cwynodd Miss B fod Cyngor Sir Powys wedi methu â delio’n briodol â’i chŵyn yn ymwneud â’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi oedi wrth ddelio â chŵyn Miss B a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss B, o fewn pythefnos, ac i egluro’r rhesymau dros yr oedi wrth ddelio â’i chŵyn, i uwchgyfeirio ei chŵyn i Gam 2 gweithdrefn gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, ac i benodi Ymchwilydd Annibynnol.