Dyddiad yr Adroddiad

09/26/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202304330

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms G bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi methu ymateb i’w chwyn am gam-drin hanesyddol.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Cyngor wedi methu cofnodi pryderon Ms G fel cwyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms G. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Ms G i ymddiheuro ac i roi eglurhad am y methiant a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 5 wythnos.