Cwynodd Mr A fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi methu ag ymateb yn llawn i’w gwynion am Wasanaethau Cymdeithasol.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi rhoi sylw llawn i’r gŵyn. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod gan Mr A gwestiynau heb eu hateb oherwydd hyn a phenderfynwyd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi ymateb i gŵyn Mr A o fewn 6 wythnos, gan nodi beth yw ei gŵyn i’r Cyngor a sut yr ymdrinnir â’r gŵyn neu sut yr ymdriniwyd â hi mewn achos llys.