Cwynodd Miss X fod Cyngor Caerdydd wedi methu darparu’r ymateb i gŵyn cam 2 ar ôl iddi uwchgyfeirio ei chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi anwybyddu’r cais am ymchwiliad cam 2. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi, o fewn 8 wythnos, yr ymateb i gŵyn cam 2 a fydd yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi. Bydd hefyd yn cynnwys cynnig am iawndal ariannol o £150. Cytunodd y Cyngor hefyd i ddarparu diweddariadau misol os nad yw mewn sefyllfa i gyhoeddi ei ymateb o fewn yr amserlen hon, a chynnwys amcangyfrif o’r dyddiad cwblhau.