Cwynodd Miss A fod Cyngor Caerdydd, dros 5 mis, wedi methu ag ymateb i’w chais i’w chŵyn am y Gwasanaethau Plant gael ei huwchgyfeirio i Gam 2 polisi cwynion y Cyngor. Dywedodd fod y diffyg cyfathrebu priodol a’r modd yr ymdriniwyd â’i chwyn wedi cadarnhau ei theimlad nad oedd neb yn gwrando arni, ac nad oedd y Gwasanaeth yn poeni am ei lles, nac yn diwallu ei hanghenion parhaus.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â chadw at ei bolisi cwynion. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi diangen a rhwystredigaeth i Miss A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor o fewn 1 mis, i gynnig ymddiheuriad a £150 o iawndal i Miss A i gydnabod yr oedi a’r diffyg cyfathrebu wrth ymdrin â’i chwyn, ac o fewn 2 fis i ddarparu ymateb Cam 2 i’r gŵyn.