Dyddiad yr Adroddiad

04/28/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202208262

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Caerdydd wedi methu â darparu ymateb Cam 2 i gŵyn am y Gwasanaethau Cymdeithasol a wnaeth ar ran Miss B ar 1 Gorffennaf 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod gan y Cyngor i fynd i’r afael â chwyn Miss B gan ei fod yn hytrach wedi cynnig cyfarfod iddi. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Miss B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Cyngor â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro a rhoi esboniad i Miss B am yr oedi, cynnig £200 i wneud iawn am hyn a phenodi ymchwilydd annibynnol o fewn 4 wythnos. Cytunodd y Cyngor hefyd i gynnal adolygiad er mwyn gweld a oes unrhyw achwynwyr tebyg dan anfantais ac i gymryd camau priodol mewn unrhyw achosion tebyg.