Dyddiad yr Adroddiad

08/14/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202302987

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr G fod Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf wedi methu â chydymffurfio â’i drefn gwyno mewn perthynas â’i bryderon am wasanaethau cymdeithasol i blant.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod ar ran y Cyngor i gyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 1. At hynny, methodd y Cyngor ag ymateb i bob un o negeseuon ebost Mr G. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr G. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro a rhoi’r esboniad angenrheidiol am yr esgeulustod ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn Cam 2 o fewn 5 wythnos.