Roedd Ms A yn anfodlon ag ymateb y Cyngor i’w chwyn a gofynnodd am ymchwiliad annibynnol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi darparu ymateb i’r pryderon a godwyd gan Ms A yng Ngham 1 ei bolisi cwynion. Roedd Ms A yn anfodlon â’r ymateb. Fodd bynnag, nid oedd y Cyngor wedi rhoi cyfle i Ms A gynnal ymchwiliad annibynnol yn unol â Cham 2 ei bolisi cwynion. At hynny, nid oedd y Cyngor wedi rhoi esboniad llawn i Ms A am y penderfyniad hwn.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i roi ymateb llawn i Ms A yn egluro’r rhesymeg dros beidio â chynnal ymchwiliad annibynnol. Cytunodd y Cyngor i wneud hyn o fewn 2 wythnos.