Dyddiad yr Adroddiad

01/15/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202306531

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y ffordd y symudodd Cyngor Bro Morgannwg ei phlant oddi wrthi a’r trefniadau gofal a roddwyd ar waith ganddynt wedi hynny.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cynnal ymchwiliad Cam 2, ac wedi derbyn ei ganfyddiadau yn llawn, nad oeddent wedi cwblhau un o’r argymhellion a wnaethpwyd gan yr Ymchwiliwr Annibynnol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ar gais yr Ombwdsmon, cytunodd y Cyngor i ysgrifennu at Ms A ynglŷn â’r argymhelliad dan sylw.