Dyddiad yr Adroddiad

03/09/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202206038

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr Z nad oedd Cyngor Bro Morgannwg wedi rhoi ymateb i’r gŵyn a godwyd ganddo ym mis Hydref 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi oedi’n sylweddol cyn ymateb i’r gŵyn, a bod hyn wedi achosi anhwylustod a rhwystredigaeth i Mrs T. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Roedd y Cyngor eisoes wedi cymryd camau rhagweithiol drwy ymddiheuro i Mr Z ac wedi egluro’r oedi. Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i dalu £100 o iawndal i Mr A am ei amser a’i drafferth.