Cwynodd Mr A, ar ran Miss B, nad oedd y Cyngor wedi darparu ymateb ysgrifenedig priodol yn dilyn datrys cwyn Miss B.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod cyfarfodydd wedi’u cynnal gyda rheolwr y tîm a’r gweithiwr cymdeithasol i drafod cwyn Miss B, na chafodd ymateb ysgrifenedig priodol, a oedd yn nodi telerau’r datrysiad y cytunwyd arno, yn unol â’r polisi.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i anfon llythyr at Mr A, o fewn pythefnos, i ymddiheuro am fethu â darparu llythyr cau cwyn priodol, a’i gael. Cytunodd y Cyngor hefyd i anfon llythyr at Mr A, o fewn 4 wythnos, yn nodi’r camau a gymerwyd i sicrhau bod llythyrau priodol yn cael eu hanfon, sy’n darparu’r telerau y cytunwyd arnynt yn dilyn datrys cwyn.