Dyddiad yr Adroddiad

08/31/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202302021

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am yr amser yr oedd ei mam wedi bod yn aros i Gyngor Sir y Fflint drefnu pecyn gofal. Cwynodd hefyd fod y Cyngor wedi gwrthod ei chais i uwchgyfeirio’r gŵyn i Gam 2 o’r weithdrefn gwyno.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mrs A, nid oedd wedi rhoi ymateb Cam 2 fel y byddai’n ofynnol fel arfer.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunodd, o fewn 20 diwrnod gwaith, i ymateb yn ysgrifenedig i’r 4 agwedd ar y gŵyn, y manylir arnynt yng nghyflwyniad Mrs A i’r Ombwdsmon. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac felly ni ymchwiliodd.