Dyddiad yr Adroddiad

20/11/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202501588

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms C am y ffordd y deliodd Cyngor Sir y Fflint â chŵyn a gododd ym mis Hydref 2024. Fe wnaethon ni ymchwilio pam na wnaeth y Cyngor uwchgyfeirio ei chŵyn i Gam 2 o’i broses gwyno, yn unol â Rheoliadau Gweithdrefn gwyno y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005, nes i’r Ombwdsmon ymyrryd.

Canfuom fod y Cyngor wedi gwrthod symud ymlaen â chŵyn Ms C oherwydd nad oedd o’r farn bod y materion a gododd yn gwarantu ymchwiliad annibynnol. Fodd bynnag, o dan y gyfraith sy’n llywodraethu’r weithdrefn gwyno ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol, nid oedd gan y Cyngor y disgresiwn i wneud y penderfyniad hwn. Roedd y methiant hwn yn gamweinyddu a arweiniodd at rwystredigaeth ac anghyfleustra i Ms C, sydd hefyd wedi mynegi colli hyder yn y Cyngor. Fe wnaethon ni hefyd ganfod tystiolaeth bod dull y Cyngor yn adlewyrchu problem systemig, a allai fod wedi effeithio ar achwynwyr yn y gorffennol ac, os na fyddai’n cael sylw, a allai fynd ymlaen i effeithio ar eraill yn y dyfodol. Cadarnhawyd y gŵyn.

Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Ms C a chynnig £250 iddi i gydnabod ei hamser a’i thrafferth wrth ddilyn y gŵyn. Cytunodd i atgoffa’r holl staff perthnasol o rwymedigaeth y Cyngor i gynnig, a gweithredu, ymchwiliad Cam 2 pan fydd achwynydd yn parhau i fod yn anfodlon. Cytunodd y Cyngor hefyd i gynnal archwiliad o bob cwyn am y Gwasanaethau Cymdeithasol a dderbyniodd o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf, i nodi unrhyw achwynwyr y gwrthodwyd eu hawl i ymchwiliad Cam 2 iddynt ac i gynnig y cyfle iddynt symud ymlaen i Gam 2 os oedd yn parhau i fod yn ymarferol gwneud hynny.