Dyddiad yr Adroddiad

10/10/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202304385

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss T fod Cyngor Sir y Fflint wedi gwrthod derbyn ei chwyn Cam 2 yn erbyn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi darparu ymateb Cam 1, roedd wedi gwrthod caniatáu i Miss T uwchgyfeirio ei chwyn i ail gam y weithdrefn gwyno statudol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Miss T gydag ymddiheuriad ac esboniad o’r methiant o fewn 4 wythnos ac i gomisiynu a symud ymlaen gydag ymchwiliad annibynnol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.