Dyddiad yr Adroddiad

08/02/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202302711

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms E fod Cyngor Sir Ceredigion wedi gorfodi ei mam i fynd i gartref gofal preswyl heb ganiatâd, ac mae nawr yn ceisio adennill y costau hynny.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymchwilio i’r pryderon a godwyd gan Ms E o dan ei broses gwyno, ac yn hytrach na hynny roedd wedi’i chynghori ei fod yn benderfyniad sydd wedi cael ei wneud yn briodol. Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd modd i’r Cyngor benderfynu ei fod yn benderfyniad sydd wedi cael ei wneud yn briodol heb ymchwiliad ffurfiol. Achosodd hyn rwystredigaeth ac anghyfleustra ychwanegol i Ms E.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Ms E a chofnodi’r pryderon fel cwyn ffurfiol, gan gydnabod ei fod wedi’i derbyn o fewn 5 diwrnod gwaith. Cytunodd y Cyngor hefyd i roi taliad o £50 i Ms E am yr anghyfleustra.