Dyddiad yr Adroddiad

19/08/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202503233

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd eiriolwr, Mr X, fod ei gleient, Miss Y, heb dderbyn ymateb wrth Gyngor Sir Gaerfyrddin i’r gŵyn Gwasanaethau Cymdeithasol a wnaed i’r Cyngor ym mis Chwefror 2025.

Canfu’r Ombwdsmon y cafwyd oedi wrth gyhoeddi ymateb Cam 2 i gŵyn Miss Y, gan achosi rhwystredigaeth iddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro ac egluro’r rhesymau am yr oedi ac i gyhoeddi ymateb Cam 2 i’r gŵyn Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn 6 wythnos.