Dyddiad yr Adroddiad

06/28/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202300265

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am benderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i beidio ag ymchwilio i bryderon yr oedd wedi’u rhannu am ei fab. Cwynodd Mr A am y broses delio â chwynion hefyd, gan nad oedd y Cyngor wedi uwchgyfeirio ei gŵyn i Gam 2 proses gwynion y gwasanaethau cymdeithasol. Dywedodd Mr A fod y Cyngor wedi dehongli’r gyfraith yn anghywir.

Canfu’r Ombwdsmon fod rhywfaint o oedi wedi bod cyn i’r Cyngor ddelio â’r gŵyn. Cyn cyhoeddi’r ymateb i gŵyn Cam 1, gofynnodd Mr A am uwchgyfeirio’r materion i Gam 2 ac am ymchwiliad annibynnol i’w gŵyn. Ni chafodd hyn ei weithredu gan y Cyngor ac ni chafodd Mr A ymateb sylweddol i’r ceisiadau hynny. Darparodd y Cyngor ymateb terfynol ym mis Ebrill 2023, a oedd yn ymddangos yn anghyson ac yn ddryslyd. Nid oedd yn glir ar ba sail yr oedd y Cyngor wedi gwrthod cynnal yr ymchwiliad annibynnol Cam 2 y gofynnwyd amdano. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gysylltu, o fewn 20 diwrnod gwaith, â Mr A i sefydlu pa faterion sy’n dal heb eu datrys, i roi ymateb pellach iddo i’r materion hynny a/neu esboniad ynghylch pam na ellir eu hystyried, ac i ddarparu ymddiheuriad am fethu ymateb i’r materion o sylwedd a oedd mewn negeseuon ebost a anfonwyd i’r Cyngor ym mis Rhagfyr 2022. Ym marn yr Ombwdsmon, roedd y camau uchod yn rhesymol i setlo cwyn Mr A.