Dyddiad yr Adroddiad

09/07/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202407926

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Mae gan fab Miss B awtistiaeth difrifol. Mae’n ddieiriau ac nid oes ganddo alluedd meddyliol ar gyfer ei anghenion gofal a chymorth. Cwynodd Eiriolydd Miss B ar ei rhan oherwydd bod y Cyngor wedi gwrthod newid Gweithiwr Cymdeithasol ei mab, ar ôl i’r berthynas rhwng Miss B a’r Gweithiwr Cymdeithasol ddirywio. Y rhesymau a roddwyd gan y Cyngor oedd na fyddai hynny er pennaf les ei mab. Roedd Miss B yn anfodlon â’r modd y gwnaeth y Cyngor ymdrin â’i chŵyn yn dilyn hynny, ac â’r rhesymau a roddwyd dros beidio â mynd â’i chŵyn ymlaen i gam nesaf (Cam 2) y broses cwynion gwasanaethau cymdeithasol.

Nododd yr Ombwdsmon fod darpariaeth, dan y rheoliadau sy’n ymwneud â chwynion gwasanaethau cymdeithasol, yn nodi nad yw’n ofynnol i gyngor dderbyn cwyn gan gynrychiolydd unigolyn sydd heb alluedd meddyliol.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y gallai ymateb y Cyngor yn nodi ei resymau dros beidio â bwrw ymlaen ag ymchwiliad Cam 2 fod wedi ei eirio’n fwy gofalus, ac nad oedd yn ddigon clir. Gan fod y Cyngor yn dibynnu ar ystyriaethau pennaf les, nododd yr Ombwdsmon fod mecanwaith/proses ar gyfer cymeradwyo penderfyniadau pennaf les ar ffurf cyfarfodydd ymgynghori ynghylch pennaf les y gallai Miss B ac ymgyngoreion perthnasol fod yn bresennol ynddynt.

Fel rhan o ddatrysiad cynnar cytunodd y Cyngor i ymddiheuro wrth Miss B gan nad oedd ei gyfathrebiad ynglŷn â’i chais Cam 2 mor glir ag y gallasai fod ac i gyfarfod ac ymgynghori ag ymgyngoreion perthnasol, gan gynnwys Miss B, fel rhan o gyfarfod ymgynghori ynghylch pennaf les. Byddai’r cyfarfod hwn yn edrych ar safbwynt pennaf les y Cyngor a’i reswm dros beidio â newid Gweithiwr Cymdeithasol mab Miss B.