Dyddiad yr Adroddiad

09/07/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202303219

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss T bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu ailsefydlu’r cyfleoedd gwreiddiol oedd gan ei brawd cyn pandemig COVID-19 o ran canolfan ddydd.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Miss T ond nid oedd wedi ystyried ei chwyn o dan weithdrefn gwyno’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss T.

Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael y Cyngor i gytuno i ymddiheuro i Miss T, i ddechrau ymchwiliad o dan Gam 2 y Gwasanaethau Cymdeithasol ac i gynnig £75 i Miss T am ei hamser a’i thrafferth yn codi’r gŵyn gyda’r Ombwdsmon, a hynny cyn pen 3 wythnos.