Dyddiad yr Adroddiad

06/05/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202300741

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B am y ffordd yr oedd Cyngor Abertawe yn delio â’i gŵyn am Wasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd Mr B, ar ôl codi cwyn Cam 2 gyda’r Cyngor, ei fod wedi dweud wrtho nad oedd ganddo Ymchwilydd Annibynnol ar gael ac y byddai’n cael ei roi ar restr aros.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Mr B ers rhoi gwybod iddo ei fod yn cael ei roi ar restr aros. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ddarparu ymddiheuriad ac esboniad ysgrifenedig i Mr B am fethu darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon o fewn pythefnos, ac i ymrwymo i barhau i wneud hynny hyd nes y penodir Ymchwilydd Annibynnol.