Cwynodd Mrs S fod Cymdeithas Tai Wales and West wedi methu â mynd i’r afael â’r holl bryderon a gododd hi.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi methu â mynd i’r afael â’r holl bryderon a gododd, a achosodd rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mrs S. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Mrs S o fewn pythefnos am beidio â mynd i’r afael â’r pryderon oedd heb eu datrys, i ailystyried ei chŵyn a chynnig taliad ariannol o £100 am amser a thrafferth.