Dyddiad yr Adroddiad

02/26/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion

Cyfeirnod Achos

202307141

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Cyngor Sir Powys wedi gwrthod uwchgyfeirio ei chŵyn am wasanaethau cymdeithasol i ail gam y drefn gwyno statudol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi penderfynu’n anghywir bod y gŵyn y tu allan i’r weithdrefn statudol, a’i fod wedi rhoi gwybodaeth anghywir i Ms A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Ms A, talu iawndal o £250 iddi a pharhau ag ymchwiliad i gŵyn cam dau. Ar ben hynny, sicrhau bod staff perthnasol yn cael eu hatgoffa o hawliau achwynwyr ac adolygu cywirdeb yr wybodaeth a ddarperir i achwynwyr, o fewn 10 diwrnod gwaith.