Dyddiad yr Adroddiad

16/12/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Gwasanaethau anfeddygol

Cyfeirnod Achos

202410182

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod ei mab sy’n oedolyn, Mr B, sydd ag awtistiaeth ddifrifol, heb gael mynediad at wasanaethau dydd oherwydd bod y Bwrdd Iechyd wedi gwrthod caniatáu iddo ddefnyddio cadair olwyn wthio i gael gafael ar drafnidiaeth. Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi cynnig defnyddio cadair olwyn fodur ar gyfer cludo yn lle hynny, ond roedd hi’n bryderus bod y llawlyfr defnyddwyr yn cynnwys rhybudd yn erbyn defnyddio’r gadair at y diben hwn. Dywedodd fod y gadair olwyn wthio, yn ei barn hi, yn ddiogel i’w defnyddio ac y dylid cynnig hyfforddiant i staff ddefnyddio’r gadair wthio’n briodol.

Ar ôl ystyried gwybodaeth a ddarparwyd gan Mrs A a’r Bwrdd Iechyd, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod cyfleoedd wedi’u colli i ofyn am ailasesiad o addasrwydd y gadair olwyn fodur gan y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (“ALAS” – a weithredir gan fwrdd iechyd gwahanol). Roedd hefyd yn ymddangos y gallai’r Bwrdd Iechyd fod wedi gwneud mwy i ymgysylltu â Mrs A er mwyn deall a mynd i’r afael yn well â’i phryderon ynghylch defnyddio’r gadair olwyn fodur.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn mis, i ofyn am ailasesiad brys gan ALAS o addasrwydd y gadair olwyn fodur i Mr B fel ffordd o gael mynediad at drafnidiaeth i wasanaethau dydd o’i gymharu ag opsiynau eraill sydd ar gael, ac i ofyn am gyflymu’r broses honno cyn belled ag y bo modd. Cytunodd hefyd i ymgysylltu â Mrs A cyn belled ag y bo modd nes y ceir canlyniad yr asesiad, ynghylch ei phryderon diogelwch yn ymwneud â’r gadair olwyn fodur a, phe na bai’r rheini’n cael eu goresgyn, ymrwymo y bydd yn ei helpu hi a’i gŵr i ddod o hyd i ddatrysiad o ran storio’r gadair olwyn ar eu heiddo sy’n dderbyniol iddynt.