Dyddiad yr Adroddiad

27/01/2026

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202508489

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A y bu methiannau dro ar ôl tro gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (“yr Ymddiriedolaeth”) i flaenoriaethu’n briodol ymateb brys pan alwodd ei gŵr, Mr A, 999 ar ôl hanner nos ar 30 Mai 2025, gan arwain at oedi sylweddol cyn iddo gael gofal meddygol priodol. Roedd Mrs A yn pryderu bod yr oedi wedi arwain at sefyllfa lle profodd Mr A boen erchyll y gellid bod wedi’i hosgoi, a bod hyn wedi cyfrannu at ei farwolaeth gynamserol.

Er bod cwyn Mrs A yn erbyn yr Ymddiriedolaeth wedi’i hystyried mewn ymchwiliad gan y Bwrdd Iechyd yn ei hardal, canfu’r Ombwdsmon nad oedd ei phryderon wedi cael sylw digonol. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y gallai ymchwiliad llawn a thrwyadl gan yr Ymddiriedolaeth i gwynion Mrs A ddatrys ei chwyn.

Cytunodd yr Ymddiriedolaeth, o fewn mis, i gychwyn ymchwiliad “Gweithio i Wella” i’r gŵyn, gan roi sylw i’r elfennau hynny yng nghwyn Mrs A a oedd yn ymwneud â’r gofal a roddwyd gan yr Ymddiriedolaeth.