Dyddiad yr Adroddiad

04/12/2025

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202504636

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B fod cyfathrebu gwael a gofal annigonol gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi achosi oedi wrth asesu a thrin sepsis ei wraig, pan gafodd ei chludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd yr Ymddiriedolaeth wedi delio â phryderon Mr B yn unol â threfniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn y GIG (‘Gweithio i Wella’). Darparodd yr Ymddiriedolaeth a’r Bwrdd Iechyd ymatebion ar wahân i gwynion Mr B, a arweiniodd at anghysondebau a hepgoriadau yn y canfyddiadau. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb yr Ymddiriedolaeth i gydweithredu â’r Bwrdd Iechyd a rhoi ymateb ar y cyd i’r gŵyn o fewn tri mis.