Dyddiad yr Adroddiad

02/12/2025

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202408702

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms A am y gofal a ddarparwyd i’w diweddar bartner ym mis Tachwedd 2024. Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i weld a oedd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (“yr Ymddiriedolaeth”) wedi blaenoriaethu ac ymateb yn briodol i alwad 999 Ms A ac a oedd wedi rhoi cyngor priodol iddi i ddiogelu llesiant ei phartner, gan gynnwys mewn perthynas â’r cyngor i ddod o hyd i drafnidiaeth arall i’r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Treforys. Yn anffodus iawn, bu farw partner Ms A ar ôl cael ataliad ar y galon ar y ffordd i’r ysbyty.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr alwad 999 wedi cael ei blaenoriaethu’n briodol gan yr Ymddiriedolaeth, ond nad oedd yn bosib darparu ymateb brys amserol ar y pryd oherwydd y galw eithafol ar y gwasanaeth ambiwlans. Felly, ni chafodd y gŵyn gyntaf ei chadarnhau.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr Anfonwr Gwasanaethau Meddygol Brys, a atebodd alwad 999 Ms A, wedi gwyro oddi wrth y sgript ffôn wrth ei chynghori i fynd â’i phartner i’r Adran Achosion Brys. Fodd bynnag, wrth edrych yn ôl, nid oedd yn bosib penderfynu a fyddai canlyniad partner Ms A wedi bod yn wahanol pe bai’r Anfonwr Gwasanaethau Achosion Brys wedi defnyddio’r geiriau cywir. Felly, ni chafodd yr ail gŵyn ei chadarnhau.