Dyddiad yr Adroddiad

02/12/2024

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202308584

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs C am y gofal a gafodd ei diweddar ŵr, Mr C, gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (“yr Ymddiriedolaeth”) ar 18 Rhagfyr 2022. Fe wnaeth yr ymchwiliad ystyried a oedd Mr C wedi cael ei frysbennu a’i flaenoriaethu’n briodol yn ystod yr alwad gyntaf a’r galwadau dilynol i 999. Fe wnaeth hefyd ystyried a oedd ddiweddariadau cywir a digonol wedi cael eu darparu i deulu Mr C wrth iddo aros am ambiwlans, gan gynnwys a oedd yr alwad “llesiant” yn ddigonol.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr C wedi cael ei frysbennu a’i flaenoriaethu’n briodol yn ystod yr alwad 999 gyntaf a’r galwadau dilynol. Er na ddarparwyd diweddariadau rheolaidd, roedd hyn oherwydd y nifer uchel o alwadau yr oedd yr Ymddiriedolaeth yn delio â nhw’r diwrnod hwnnw. Mae polisïau’r Ymddiriedolaeth yn cadarnhau nad yw galwadau llesiant yn orfodol ac efallai na fydd yn ymarferol gwneud galwadau o’r fath ar adegau o alw uchel ar ei gwasanaethau. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs C.