Dyddiad yr Adroddiad

02/20/2024

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202307929

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B ei bod yn anfodlon ag ymateb Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) i’r gŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd WAST wedi sefydlu canlyniadau dymunol Ms B ar gyfer ei chŵyn, ac nid oedd yn egluro pa opsiynau oedd ar gael iddi o hyd. Ni wnaeth WAST egluro pa wybodaeth a ystyriwyd ganddi yn ei hymchwiliad, na’i sefyllfa o ran rhwymedigaeth gymhwyso a gwneud iawn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb WAST i ymddiheuro i Ms B am yr hyn a hepgorwyd yn yr ymateb i’r gŵyn, ac i ddarparu’r wybodaeth a’r esboniadau angenrheidiol o fewn 10 diwrnod gwaith.