Dyddiad yr Adroddiad

01/26/2024

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202202481

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (YGAC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”). Ystyriodd yr ymchwiliad gŵyn Mrs A am y gofal a gafodd ei diweddar ŵr, Mr B, gan WAST. Cwynodd Mrs A am yr oediad cyn i ambiwlans gyrraedd ar ôl ei galwadau 999 a chwestiynodd a roddwyd y galwadau 999 yn y categori cywir. Cwynodd hefyd fod oediad pellach cyn cludo Mr B i’r Adran Achosion Brys (“AAB”) yn ysbyty Treforys (“yr Ysbyty”) wedi effeithio ar ei brognosis. Mewn perthynas â’r Bwrdd Iechyd, ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y gofal a ddarparwyd i Mr B yn amserol ac yn briodol ac a oedd methiant i gyfathrebu am y dirywiad yng nghyflwr ei gŵr wedi golygu na allai hi fod gydag ef yn ystod ei oriau olaf.

Canfu’r ymchwiliad fod y galwadau 999 i YGAC wedi’u categoreiddio’n gywir a’u blaenoriaethu’n briodol, a bod yr oediad cyn i’r ambiwlans gyrraedd Mr B y tu hwnt i reolaeth WAST oherwydd y pwysau ar eu gwasanaethau. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan hon o gŵyn Mrs A.

Canfu’r ymchwiliad y collwyd cyfle i sylweddoli ar fethiant calon Mr B a newid ei driniaeth ac ystyried ymyriad triniaeth pellach. Wedi dweud hynny, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon ei bod yn eithriadol o annhebygol, pe bai Mr B wedi cyrraedd yr ysbyty’n gynt a bod triniaeth methiant y galon wedi dechrau’n gynt, y byddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol. Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad nad oedd yn rhesymol nac yn briodol peidio â dogfennu rheswm dros yr oediad parafeddygol a’r diffyg amseroldeb wrth gludo Mr B i’r Ysbyty ac, i’r graddau hynny, bod hyn yn fethiant gan y gwasanaeth a achosodd drallod a gofid i Mrs A, a chadarnhawyd ei chŵyn i ryw raddau.

O ran cwyn Mrs A am y Bwrdd Iechyd a’r gofal a gafodd Mr B yn yr Ysbyty, daeth yr ymchwiliad i’r casgliad bod y gofal a ddarparwyd i Mr B yn amserol ac yn briodol ac felly ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd Mrs A yn gwbl ymwybodol pa mor wael oedd ei gŵr, a dylai’r parafeddygon a’r clinigwyr fod wedi gwybod hyn ac wedi gwneud mwy i ystyried cynnwys Mrs A yng ngofal ei gŵr. Ni chafodd Mrs A wybod am y cyfarwyddyd na cheisier dadebru cardio-anadlol (“DNACPR” sy’n hysbysu clinigwyr nad yw claf yn dymuno cael ei ddadebru pe bai ei anadlu neu ei galon yn stopio); trafodwyd hyn gyda Mr B yn oriau mân y bore. Dylai Mrs A fod wedi cael gwybod am y penderfyniad DNACPR cyn gynted â bod hynny’n ymarferol bosibl. Golygodd y materion hyn, ynghyd â’r methiant cyffredinol i gyfathrebu â Mrs A ynglŷn â pha mor wael oedd Mr B, fod y Bwrdd Iechyd wedi colli’r cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mrs A am gyflwr a thriniaeth ei gŵr.

Cydnabu’r Ombwdsmon fod hyn yn heriol i’r Bwrdd Iechyd yng nghyd-destun y cyfyngiadau COVID-19, ond roedd hynny hefyd wedi cyfyngu ymhellach ar gyfle Mrs A i fod gyda’i gŵr. O ystyried hyn, dylid bod wedi meddwl mwy am gyfathrebu â hi am y sefyllfa ddiweddaraf ar frys yn gynt nag a ddigwyddodd mewn gwirionedd. Roedd y Bwrdd Iechyd eisoes wedi cynnig ymddiheuriad diamod am golli’r cyfle hwn, ac am yr effaith ar Mrs A. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs A, i’r graddau bod diffygion cyfathrebu cyffredinol wedi golygu na allai gael ei chynnwys yng ngofal ei gŵr na bod yn bresennol ar ddiwedd ei fywyd i dawelu ei feddwl a’i gefnogi, a bod hyn yn anghyfiawnder bythol i Mrs A.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai YGAC a’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a nodwyd yn yr ymchwiliad. Gofynnwyd i YGAC, fel rhan o ddysgu ehangach, gynnal adolygiad clinigol o achos Mr B a thrafod nodweddion clinigol a rheolaeth glinigol â’r criw a oedd yn bresennol, gan gynnwys priodoldeb yr amser yn y safle a’r dogfennu. Gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd, os nad oeddent eisoes wedi gwneud hynny, atgoffa’r tîm meddygol a’r tîm nyrsio o’r lefelau a’r dulliau cyfathrebu a ddisgwylir, a pha mor aml y dylid rhoi diweddariadau i deuluoedd cleifion.