Dyddiad yr Adroddiad

01/18/2024

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202302509

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Ms Z fod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (“yr Ymddiriedolaeth”) wedi categoreiddio galwad frys gan ei thad yn Awst 2022 yn amhriodol. Cwynodd Ms Z hefyd am briodoldeb archwiliad lles gan yr Ymddiriedolaeth, yn benodol a ddylid bod wedi gofyn cwestiynau pellach a allai fod wedi newid blaenoriaeth yr alwad.

Canfu’r ymchwiliad fod yr alwad frys gan dad Ms Z wedi cael ei chategoreiddio’n briodol. O ran yr archwiliad lles, penderfynwyd na chafodd y cwestiynau cywir eu gofyn. Mae’r methiant i ofyn y cwestiynau cywir wedi achosi ansicrwydd i Ms Z, sy’n anghyfiawnder iddi.

Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i ymddiheuro i Ms Z am beidio â gofyn y cwestiynau cywir ac am yr ansicrwydd a achosodd hyn iddi. Cytunasant hefyd i atgoffa pawb sy’n derbyn galwadau o bwysigrwydd dilyn gweithdrefn safonol Rheoli Ymatebion Gohiriedig yr Ymddiriedolaeth a gofyn y cwestiynau sydd wedi’u nodi ynddi.