Dyddiad yr Adroddiad

03/06/2023

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202206959

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ymateb i’w chŵyn ddilynol am yr oedi 11 awr mewn ambiwlans a ddioddefodd ei thad.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod WAST wedi oedi cyn ymateb i’r gŵyn ddilynol ac roedd hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb WAST i ymddiheuro i Mrs A a chynnig taliad ariannol o £50 iddi i gydnabod yr oedi. Cytunodd WAST hefyd i roi ymateb i gŵyn Mrs A o fewn 4 wythnos.