Dyddiad yr Adroddiad

03/24/2023

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202207867

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr W nad oedd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Gorffennaf 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi oedi cyn ymateb a bod hyn wedi achosi anhwylustod a rhwystredigaeth i Mr W. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ymddiheuro i Mr W a rhoi ymateb i’w gŵyn iddo o fewn 7 wythnos.