Cwynodd Mrs A fod y Cyngor wedi rhoi anfoneb anghywir am y gofal a roddwyd i’w gŵr, Mr B, ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r Ysbyty.
Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu bod Mrs A o’r farn bod y Cyngor wedi rhoi gwybodaeth anghywir iddi ynghylch y costau, gan i’r Ombwdsmon ganfod camgymeriadau yn ymateb y Cyngor i’r cwynion. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth a dryswch i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, o fewn 4 wythnos, anfon llythyr at Mrs A yn nodi’n glir y balans sy’n weddill ac yn esbonio sut y cyfrifwyd y balans hwn. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny.