Cwynodd Mr A, ar ran Mrs B, fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â dilyn y broses gywir wrth ystyried ei hapêl yn erbyn ei benderfyniad nad oedd hi’n gymwys i gael cyllid Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Yn benodol, cwynodd fod y Bwrdd Iechyd wedi penderfynu ar yr apêl cyn cyflwyno’r rhesymau ysgrifenedig llawn dros yr apêl.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â dilyn “Gofal Iechyd Parhaus y GIG – Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu yng Nghymru” pan benderfynodd ar yr apêl heb ganiatáu cyflwyno’r rhesymau ysgrifenedig llawn dros yr apêl yn gyntaf. Roedd hyn gyfystyr â chamweinyddu a achosodd anghyfiawnder. Canfu’r Ombwdsmon hefyd nad oedd polisi lleol y Bwrdd Iechyd yn gyson â’r Fframwaith Cenedlaethol mewn perthynas â’r mater hwn.
Yn lle ymchwilio i’r gŵyn, cafodd yr Ombwdsmon sêl bendith y Bwrdd Iechyd i ganiatáu i’r rhesymau llawn dros yr apêl gael eu cyflwyno cyn penderfynu ar yr apêl. Cytunodd hefyd i ddiwygio ei bolisi i sicrhau ei fod yn gyson â darpariaethau’r Fframwaith Cenedlaethol.
Cytunodd i ymgymryd â’r camau hyn o fewn 6 mis.