Cwynodd Mrs A fod y gofal a’r cymorth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn perthynas â’i rheolaeth o ddiabetes yn 2023 yn annigonol, ac nad oedd yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (“NICE”). Fe wnaeth yr ymchwiliad hefyd ystyried a oedd lefel y gofal seibiant a ddarparwyd i’w merch yn ddigonol.
Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a’r cymorth a ddarparwyd i Mrs A mewn perthynas â’i rheolaeth o ddiabetes yn 2023, o ran ei hanghenion clinigol a chymdeithasol, yn fwy na’r canllawiau a argymhellir gan NICE. Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod lefel y gofal seibiant a ddarparwyd i ferch Mrs A yn briodol. Ni chadarnhawyd cwyn Mrs A.