Dyddiad yr Adroddiad

27/11/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Gofal parhaus

Cyfeirnod Achos

202504289

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Dywedodd Mr A, ym mis Rhagfyr 2024, fod cais wedi’i wneud ar ran ei fam i gychwyn asesiad gofal iechyd parhaus y GIG a ddylai, yn ôl y canllawiau, fod wedi digwydd o fewn 8 wythnos. Dywedodd nad oedd hyn wedi digwydd nac wedi cael ei gydnabod hyd yn oed.

Dywedodd Mr A fod ei fam wedi colli ei chartref; roedd wedi cael gwybod y byddai’n rhaid gwerthu ei thŷ a bod yn rhaid iddi ddefnyddio ei harian ei hun i brynu eitemau yr oedd ganddi hawl iddynt (e.e. cadair olwyn).

Roedd Mr A wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd am y mater hwn ym mis Mawrth 2025 ac eto ym mis Awst 2025 ond nid oedd wedi derbyn unrhyw gydnabyddiaeth nac ymateb i’w bryderon.

Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd Mr A wedi derbyn ymateb i’w gŵyn. Yn hytrach nag ymchwilio i’r gŵyn, cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr A am fethu ag ymateb i’w gŵyn ac i roi ymateb ffurfiol iddo i’w gŵyn. Cytunodd i wneud hyn o fewn 30 diwrnod gwaith.