Cwynodd Ms B, er bod ei thad, Mr A, yn yr ysbyty ac yn nesáu at ddiwedd ei oes, nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau amserol a phriodol i fwrw ymlaen â chais Mr A am gyllid Gofal Iechyd Parhaus a hwyluso’r broses o’i ryddhau o’r ysbyty.
Gwelsom fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â threfnu asesiad Gofal Iechyd Parhaus llawn ar gyfer Mr A ar ôl cael cais rhestr wirio wedi’i chwblhau am gyllid Gofal Iechyd Parhaus. Yn hytrach, gofynnodd dro ar ôl tro am ragor o wybodaeth a oedd yn llesteirio’r tîm a oedd yn gofalu am Mr A, a’i deulu. Methodd y Bwrdd Iechyd hefyd ystyried a ddylai fod wedi rhoi gofal amgen i Mr A ar unwaith, er mwyn diogelu ei lesiant. Yn y cyfamser, arhosodd Mr A ar ward gyffredinol yn yr ysbyty, a oedd yn annigonol i ddiwallu ei anghenion, ac roedd yn ymddangos fod hyn wedi cyfrannu at ei ddirywiad clinigol. Felly, cafodd cwynion Ms B eu cadarnhau.
Gwelsom awgrym hefyd fod y Bwrdd Iechyd yn gwrthod ceisiadau rhestr wirio fel mater o drefn ac yn nodi nad oedd gan y Bwrdd broses gadarn ar waith i dderbyn a datblygu ceisiadau llwybr carlam am Ofal Iechyd Parhaus. Roeddem o’r farn y gallai’r materion hyn awgrymu dull systemig sy’n groes i’r gyfraith a’r canllawiau ar sut y dylid derbyn a phrosesu ceisiadau am Ofal Iechyd Parhaus.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms B, adolygu pob cais presennol am Ofal Iechyd Parhaus i nodi unrhyw rai sydd angen darpariaeth llwybr carlam, ac atgoffa holl staff Gofal Iechyd Parhaus o bwysigrwydd cydnabod a bwrw ymlaen yn gywir â cheisiadau llwybr carlam a rhestr wirio. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i lunio prosesau a gofynion cadarn a chlir ar gyfer ceisiadau llwybr carlam a rhestr wirio, eu rhoi ar waith a’u rhannu â chyrff eraill perthnasol iddynt eu dilyn.