Cwynodd Mr A ei fod wedi gorfod ysgrifennu 3 llythyr at Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg cyn derbyn ymateb i’w bryderon am ofal iechyd ei fab yn y carchar. Roedd Mr A yn anfodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, y modd yr ymdriniwyd â’i gŵyn, a’r wybodaeth a ddarparwyd. Dywedodd Mr A fod problemau gofal iechyd ei fab yn dal heb eu diagnosio a heb eu trin.
Penderfynodd yr Ombwdsmon ei bod yn ymddangos bod mab Mr A wedi cael mynediad at ofal iechyd perthnasol, a’i fod wedi’i atgyfeirio ar gyfer ymchwiliadau pellach gyda gwasanaethau arbenigol lle’r oedd angen. Nid oedd tystiolaeth o anghyfiawnder personol sylweddol mewn perthynas â hyn. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn pryderu am y ffordd yr ymdriniwyd â’r gŵyn, gan gynnwys oedi a cham-gyfathrebu, a oedd wedi arwain at wrthod cyfle i Mr A drafod ei bryderon. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd o fewn 1 mis, i gynnig ymddiheuriad i Mr A a £150 o iawndal am yr amser a’r drafferth a gymerodd wrth geisio datrys ei bryderon. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i roi i Mr A unrhyw wybodaeth yr oedd ganddo hawl i’w chael, ac esboniad ac ymddiheuriad am y cam-gyfathrebu a’r diffyg ymateb i’w bryderon cychwynnol.