Dyddiad yr Adroddiad

05/09/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Glanhau/Cyfleusterau cyhoeddus/strydoedd ac ati

Cyfeirnod Achos

202300075

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms S fod Cyngor Caerdydd wedi methu cynnal gardd â gatiau sydd wedi’i lleoli yn union o flaen ei ffenestri. Cwynodd ymhellach bod y broses o gyfathrebu gyda’r Cyngor wedi methu, ac nad oedd wedi ymateb i’w chwyn ddiweddaraf.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y bu oedi sylweddol gan y Cyngor i ddatrys pryderon Ms S a chanfu fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i gŵyn ddiweddaraf Ms S. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ddiangen i Ms S a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Ms S am yr oedi, o fewn 4 wythnos, i ymateb i gŵyn ac i gynnig iawndal ariannol o £250 iddi.

Cytunodd y Cyngor hefyd i amserlennu’r Tîm Tir ac Asedau i fynychu eiddo Ms S ac ymhellach, i atal unrhyw faterion rhag codi yn y dyfodol, cytunodd y Cyngor i ddarparu tystiolaeth i’r Ombwdsmon y cedwir at y cynllun cynnal a chadw y cytunwyd arno mewn achos blaenorol ar gyfer y 6 mis nesaf.