Dyddiad yr Adroddiad

14/11/2025

Achos yn Erbyn

Llywodraeth Cymru

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202503972

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms C nad oedd corff Llywodraeth Cymru wedi rhoi ymateb digonol i’w chŵyn am ymddygiad aelod o staff.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd gan y corff weithdrefn gwyno ar waith. Er iddo ymateb yn brydlon pan godwyd y gŵyn gyntaf, ni roddodd yr ymateb terfynol ganlyniad clir, gan adael Ms C yn ansicr a oedd ei chŵyn wedi cael ei chymryd o ddifrif, ei chadarnhau, neu a oedd unrhyw gamau wedi cael eu cymryd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb Llywodraeth Cymru a’r corff i ysgrifennu at Ms C o fewn 4 wythnos i roi canlyniad clir i’w chŵyn ac i gyhoeddi gweithdrefn gwyno o fewn 8 wythnos.