Dyddiad yr Adroddiad

05/04/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Fynwy

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202208709

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X bod Cyngor Sir Fynwy wedi methu datrys agweddau o’i gŵyn mewn cysylltiad â defnyddio ffordd anaddas oherwydd cyfyngiad traffig. Cwynodd ymhellach am doriadau, gweithrediadau y tu allan i oriau a danfoniadau, a phryderon am arwyddion ffyrdd annigonol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon bod y Cyngor wedi methu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr X yn dilyn ei gamau gweithredu sydd wedi’u dogfennu, a achosodd rwystredigaeth i Mr X ac a’i harweiniodd at gysylltu â’r Ombwdsmon. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i gyhoeddi ymateb pellach i’r gŵyn a fyddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr X ynglŷn â’i ymweliadau safle dirybudd, ei sicrwydd y bydd yn parhau i fonitro gweithrediad a danfoniadau, a’r wybodaeth ddiweddaraf ar statws yr arwyddion ffordd yn dilyn yr ymweliadau safle sydd wedi’u dogfennu. Cytunodd y Cyngor y byddai’n gweithredu hyn o fewn 2 wythnos.