Dyddiad yr Adroddiad

04/14/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202208201

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr H fod Cyngor Sir Ceredigion wedi methu ag ymateb i gŵyn a godwyd ganddo ynglŷn â’i Adran Briffyrdd ym mis Tachwedd 2022.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod y Cyngor wedi cyflwyno ymateb Cam 1 a 2 ac yn sgil hynny cododd Mr H bryderon ychwanegol ym mis Ionawr 2023. Mae’r Cyngor wedi methu ag ymateb i’r pryderon ychwanegol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad a chytunodd y Cyngor â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr H a thrafod y pryderon oedd yn weddill o fewn pythefnos. Bydd y Cyngor wedyn yn rhoi sylw ffurfiol i’r pryderon hynny yn ysgrifenedig.