Dyddiad yr Adroddiad

05/17/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202300464

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr L bod Cyngor Gwynedd wedi methu ymateb yn llawn i’w bryderon. Cwynodd Mr L hefyd nad oedd y Cyngor wedi darparu manylion ei ymchwiliad ac wedi methu cyhoeddi cofnodion yr ymchwiliad ar ôl iddo wneud cais amdanynt.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mr L, nid oedd wedi mynd i’r afael â’r holl bryderon a godwyd ac nid oedd wedi esbonio ei ymchwiliad yn glir. Canfu hefyd na weithredwyd i gais Mr L am gofnodion yr ymchwiliad a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr L.

Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i ddarparu ymddiheuriad i Mr L am beidio â gweithredu ar ei gais mewn modd amserol, cyhoeddi cofnodion yr ymchwiliad iddo, a darparu ymateb pellach i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.