Dyddiad yr Adroddiad

03/02/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202207458

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr T am y ffordd y deliodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot â’i gŵyn am ddirgryniadau ar y ffordd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ac nad oedd wedi cyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 2. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro ac esbonio i Mr T am yr oedi, cynnig iawndal o £125 iddo a chyhoeddi ymateb i’w gŵyn o fewn 4 wythnos.