Dyddiad yr Adroddiad

23/01/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202408056

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr M fod Cyngor Caerdydd wedi methu ag ymateb yn briodol i gŵyn a wnaeth iddo am daliadau am waith a gwblhawyd ar dramwyfa.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Cyngor i’r gŵyn wedi hysbysu Mr M o dan ba gam o’r weithdrefn yr oedd yn cael ei chyhoeddi, na sut y gallai uwchgyfeirio ei bryderon ymhellach. At hynny, ymatebodd Mr M i’r e-bost a gafodd, ond nid yw’r mewnflwch yn cael ei fonitro. Felly ni dderbyniodd ymateb i’w bryderon parhaus. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth iddo a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr M am y materion a oedd yn ymwneud â’r gŵyn, egluro’r rheswm/rhesymau na chafodd ei e-bost ymateb, cynnig taliad unioni o £50, a chyhoeddi ymateb pellach i’r gŵyn o fewn 2 wythnos.

Cytunodd y Cyngor hefyd i atgoffa’r holl staff sy’n delio â chwynion bod yn rhaid iddynt hysbysu achwynwyr o’u camau nesaf yn y broses gwyno, ac atgoffa’r holl staff sy’n defnyddio’r cyfeiriad e-bost cwynion i hysbysu’r derbynwyr na chaiff y mewnflwch ei fonitro o fewn 4 wythnos.